APWYNTIADAU
Gellir trefnu apwyntiadau naill ai trwy ffonio'r feddygfa neu trwy alw i mewn. Ar gyfer apwyntiadau arferol, ffoniwch y dderbynfa gymaint ymlaen llaw â phosibl, i'n galluogi i gynnig apwyntiad sy'n
gyfleus i chi a chyda meddyg o'ch dewis chi. Apwyntiadau ar gyfer un person yn unig. Os byddwch angen gweld meddyg ar frys, rhowch fraslun o'r broblem i'r croesawydd er mwyn iddi allu trefnu apwyntiad
fel bo'n briodol.
Gall cleifion cofrestredig 16-74 oed na welwyd ers tair blynedd ofyn am ymgynghoriad.
Gall cleifion cofrestredig 75 oed a hŷn na welwyd ers blwyddyn ofyn am ymgynghoriad. Gellir trefnu ymweliad a'r cartref os na allwch ddod i'r feddygfa ar gyfer yr ymgynghoriad oherwydd eich cyflwr meddygol.
YMWELIADAU Â'R CARTREF
Cofiwch y gellir gweld nifer o bobl yn y feddygfa yn ystod yr amser a gymerir i ymweld â'r cartref.
Ffoniwch y feddygfa cyn 10.00am os byddwch yn meddwl eich bod angen ymweliad â'r cartref os gwelwch yn dda. Byddwch yn barod i roi eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, oed a braslun o'r broblem i'r croesawydd. Efallai y bydd yn gofyn i'r meddyg gadarnhau a yw'n hanfodol eich gweld gartref.
Y TU ALLAN I ORIAU GWAITH
Mae'r meddyg yn gwneud trefniadau amrywiol ar gyfer goruchwyliaeth ‘y tu allan i oriau’. Os bydd y feddygfa ynghau a'ch bod angen
meddyg ar gyfer argyfwng, mae yna feddyg ar gael bob amser. Ffoniwch y feddygfa a bydd neges wedi'i chofnodi yn dweud sut i gysylltu â'r
meddyg ‘ar alwad’. Fel arfer, Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu Gogledd Cymru
Pan fyddwch yn ffonio, gwnewch yn siwr fod gennych feiro ac arian mân neu gerdyn ffôn os byddwch mewn blwch ffôn. Mae'n bosibl
y bydd y rhif i'w ddeialu yn un ffôn symudol neu wasanaeth ateb. Byddwch yn barod i adael manylion eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
i'r meddyg gysylltu â chi.
Mae Galw Iechyd Cymru, llinell gymorth 24 awr o dan arweiniad nyrsys ar gael ar 0845 4647 neu www.nhsdirect.wales.nhs.uk os byddwch angen gwybodaeth neu gyngor iechyd. Os na fydd y peiriant ateb yn gweithio yn eich meddygfa leol, yna ffoniwch y feddygfa arall os gwelwch yn dda.
AIL BRESGRIPSIYNAU
Bydd cleifion sy'n derbyn ail bresgripsiwn gan y meddyg yn derbyn rhestr o'u meddyginiaeth. Er mwyn archebu presgripsiwn, dylid dychwelyd y rhestr hon i'r feddygfa yn y post, ar ffacs neu trwy alw i mewn yn bersonol. Rhowch 48 awr o rybudd os gwelwch yn dda.
Byddem yn ddiolchgar petaech yn amgau amlen â stamp os hoffech i ni ddychwelyd y presgripsiwn yn y post.
Peidiwch â ffonio i ofyn am ail bresgripsiwn os gwelwch yn dda.
CYNGOR A GWYBODAETH DROS Y FFÔN
Os byddwch yn dymuno siarad gyda meddyg neu nyrs ar y ffôn, mae hyn yn bosibl ar ôl apwyntiadau'r bore neu cyn apwyntiadau min nos fel arfer. Mae'r meddygon yn hapus iawn i siarad gyda chi ar y ffôn, os na fydd yn amharu ar apwyntiad arall.
MYNEDIAD I'R ANABL
Mae yna fynediad i'r anabl ym mhob un o'n meddygfeydd. Mae gennym system cyswllt cludadwy ar gael i gleifion gyda phroblemau clyw.
PROFION GWAED
Mae'n bosibl y gwnaiff y Meddyg ofyn i chi fynd am brawf gwaed. Gallwch gael y prawf yng Nghanolfan Iechyd Ffordd y Llwyni, Wrecsam. Cysylltwch â'r swyddfa rhwng 8.30am - 12.30pm dydd Llun - dydd Iau canol dydd i drefnu eich apwyntiad prawf gwaed ar 01978 266581 os gwelwch yn dda.
CLEIFION NEWYDD
Ni fydd cleifion sy'n dymuno cael eu hychwanegu ar restr y feddygfa yn cael eu trin yn wahanol ar sail:
1. Hil, rhyw, categori cymdeithasol, oed, crefydd, tuedd rhywiol nac ymddangosiad.
2. Anabledd na chyflwr meddygol.
Gofynnir i gleifion newydd ddod i gael ymgynghoriad gyda nyrs y feddygfa pan fyddant yn cofrestru yn y feddygfa.
Gan y gall gymryd cryn amser i�ch cofnodion meddygol llawn gyrraedd, gofynnir cwestiynau am eich iechyd yn y gorffennol a�r presennol ac unrhyw driniaeth yr ydych yn ei derbyn.
NEWID CYFEIRIAD
Gadewch i ni wybod os byddwch yn newid cyfeiriad neu rif ffôn er mwyn diweddaru ein cofnodion os gwelwch yn dda.
FFIOEDD MEDDYGOL
Mae'r ffioedd ar gyfer archwiliad meddygol, tystysgrifau a rhai imiwneiddiadau y codir tâl amdanynt ar gael gan y croesawyr.
CYFEILLION MEDDYGON TEULU ALYN
Mae'r feddygfa wedi annog sefydlu Grwp Gwirfoddol gyda statws elusennol i weinyddu rhoddion a qweithgareddua codi arian pellach a chynlluniau er lles cleifion y dair meddygfa.
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Am wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau meddygol cychwynnol yn yr ardal hon, cysylltwch a:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Parc Technoleg Wrecsam
Lon Rhyd Broughton
Wrecsam
LL13 7YP
Tel: 01978 346500
www.Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
SUT I GWYNO
Mae canllaw ar gyfer cwyno neu fynegi pryderon am y gwasanaethau GIG a ddarparwyd gan eich meddyg teulu ar gael yn y fuddygfa.
HAWLIAU A CHYFRIFOLDEBAU CLEIFION
1. Rydym yn parchu eich hawl i breifatrwydd a chynhelir eich gwybodaeth iechyd yn ddiogel ac yn gyfrinachol. Mae'n bwysig fod y GIG yn cynnal cofnodion cywir a diweddar am eich iechyd a'ch triniaeth fel y gall y sawl sy'n eich trin roi'r cyngor a'r gofal gorau posibl. Mae'r wybodaeth hon ar gael i'r sawl sy'n ymwneud â'ch gofal yn unig ac ni ddylai unrhyw un nad yw'n ymwneud â'ch gofal ofyn am wybodaeth feddygol bersonol gennych.
2. Byddwch yn cael eich trip fel partner yn y gofal a'r sylw rydych yn ei dderbyn.
3. Byddwch yn cael eich trip fel unigolyn ac yn cael eich trin yn gwrtais a chyda pharch bob amser. Gofynnwn i chi drin y meddygon a staff y feddygfa gyda pharch a chwrteisi hefyd ac ystyried cleifion eraill trwy wneud defiydd rhesymol o'n gwasanaeth.
4. Gweithredir POLISI DIM GODDEFGARWCH ac ystyrir unrhyw ymddygiad heriol, bygythiol neu dreisiol yn erbyn staff neu gleifion o ddifrif. Os bydd claf yn dreisiol neu'n ymosodol, efallai y byddwn yn gweithredu ein hawliau i'w tynnu, ar unwaith os bydd angen, oddi ar y rhestr cleifion.
5. Yn dilyn trafodaeth, byddwch yn derbyn y gofal mwyaf addas gan bobl gymwys. Ni roddir unrhyw ofal na thriniaeth heb eich caniatad chi.
6. Gwneir pob ymdrech i sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eich iechyd a'r gofal a gynigir.
7. Gadewch i ni wybod gynted â phosibl os byddwch yn newid enw, cyfeiriad neu rif cyswllt.
8. Ein cyfrifoldeb ni yw cynnig triniaeth a chyngor i chi. Er Iles eich iechyd, mae'n bwysig eich bod yn deall yr holl wybodaeth a roddir i chi. Cofiwch ofyn os na fyddwch yn deall yr holl wybodaeth.
9. Cofiwch mai chi sy'n gyfrifol am eich iechyd eich hun a iechyd eich plant a'n bod ni yma i gynnig cyngor a chymorth proffesiynol.
10. Gallwch helpu trwy gysylltu os na allwch gadw apwyntiad er mwyn ei gynnig i rywun arall. Weithiau, byddwn yn rhedeg yn hwyr, gan fod rhai problemau angen ychydig mwy o amser. Gobeithio y byddwch yn amyneddgar os bydd hyn yn digwydd.
MYNEDIAD I GOFNODION MEDDYGOLI
Yn achlysurol, efallai y gwnaiff unigolyn neu sefydliad arall ofyn i'ch meddyg ysgrifennu adroddiad arnoch ynglŷn â'ch hanes meddygol a'ch cyflwr iechyd presennol. Mae adroddiadau o'r fath yn aml yn ofynnol gan gwmniau yswiriant a chyflogwyr sy'n dymuno asesu, er enghraifft, y risg sy'n gysylltiedig â'ch yswirio (e.e. yswiriant bywyd) neu a ydych yn addas ar gyfer swydd. Rheolir darpariaeth adroddiadau meddygol gan y Ddeddf Mynediad i Adroddiadau Meddygol 1988. Mae prif bwyntiau'r ddeddf fel a ganlyn:
STAFF Y FEDDYGFA
Rydym yn falch o'r staff ymroddgar a chymwys. Mae rheolwyr y practis, croesawyr a nyrsys i gyd yn dal i fyny gyda'r diweddaraf yn eu gwaith trwy gyrsiau ‘mewnol’ a mynychu cyrsiau.
RHEOLWRAIG y FEDDYGFA
Mrs Susan Roberts yw rheolwraig y practis. Mrs Elaine Williams yw ei chynorthwy-ydd. Maen nhw'n gyfrifol am reoli'r practis o ddydd i ddydd. Os hoffech drafod unrhyw bryderon am y practis, gallwch gysylltu â Mrs Roberts neu â Mrs Williams a fydd yn hapus i'ch helpu.
Staff y Dderbynfa ac Ysgrifenyddesau
Y tîm croesawyr fydd eich cyswllt â'r staff meddygol a nyrsio yn y feddygfa. Byddant yn gwneud eu gorau i'ch helpu gyda'ch ymholiadau. Gofynnwch iddyn nhw am apwyntiadau, ymweliadau â'r cartref, cyngor ynglyn â chlinigau, ail bresgripsiwn a sut i gysylltu ag ymwelwyr iechyd, nyrsys ardal, chiropodydd neu fydwraig y gymuned os bydd angen.
Cydlynydd Croesawyr
Rebecca Blackwell
Croesawyr yn Gresffordd:
Hefyd, gall y croesawydd eich helpu gydag unrhyw ymholiadau am ohebiaeth gydag asiantaethau eraill, e.e. canlyniadau prawf.
NYRSYS MEDDYGFA
Nyrsys Llai:
Mae gennym dîm o nyrsys meddygfa sydd ar gael i weld cleifion ynglŷn ag unrhyw un o'r materion iechyd isod:
RHEOLI CLEFYDAU CRONIG
IMIWNEIDDIADAU
ADDYSG IECHYD
YMWYBYDDIAETH MERCHED/DYNION IACH
Mae'r feddygfa hefyd yn cynnig y gwasanaethau a'r gofal canlynol: -
Mân lawdriniaeth, monitro gwrthgeulo, darparu profion ger y claf, epilepsi, canser, strôc, iechyd meddwl, clefyd thyroid ac atal cenhedlu - yn benodol IUCD ac implanon.
BYDWRAGEDD
Mae bydwragedd y gymuned sy'n gysylltiedig â'r practis yn gofalu am ferched beichiog a mamau a babanod am hyd at 10 diwrnod ar ôl esgor. Maent yn cynnal y clinigau cyn-geni ym mhob meddygfa.
YMWELWYR IECHYD
Mae yna Ymwelwyr Iechyd yng Nghanolfan Iechyd Gresffordd a Llai ac yng Nghlinig Lôn y Capel, Rossett. Maent yn gweithio gyda meddygon i ofalu am bobl o bob oed, yn arbennig mamau a phlant.
COFRESTRYDDION MEWN MEDDYGFEYDD
Mae’n rhaid i bob meddyg sy’n bwriadu bod yn feddyg teulu gwblhau hyfforddiant llawn mewn ysbyty ac yna profiad dan oruchwyliaeth am flwyddyn mewn meddygfa. Mae ein meddygfa wedi’i chymeradwyo i hyfforddi cofrestryddion. Maent yn feddygon cwbl gymwys ac yn ychwanegiad gwerthfawr i’r tîm.
©Alyn Family Doctors 2003